Cofrestrwch i ni gysylltu â chi ar gyfer astudiaethau brechlyn coronafeirws
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi caniatâd i ymchwilwyr gysylltu â chi ynglŷn â chymryd rhan mewn astudiaethau brechlyn coronavirus (COVID-19) yn y DU.
Mae'r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Nid ydych yn cofrestru i gymryd rhan mewn astudiaeth iechyd benodol pan ddefnyddiwch y gwasanaeth hwn.
Rydych chi'n gadael i ymchwilwyr wybod eich bod chi'n hapus iddynt gysylltu â chi, os ydynt yn meddwl y gallech fod yn addas i gymryd rhan yn eu hastudiaethau.
Cyn i chi ddechrau
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i gofrestru os:
- oes gennych gyfeiriad e-bost
- eich bod yn 18 neu hŷn
- eich bod yn byw yn y DU
Mae cofrestru yn cymryd oddeutu 5 munud.
Dechreuwch nawrTynnu eich caniatâd yn ôl
Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, gallwch dynnu'ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg.
Darganfyddwch yn y polisi preifatrwydd sut y bydd eich data yn cael ei brosesu gan ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.